Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

Senedd and Elections (Wales) Bill

CLA(5) SE19

Ymateb gan unigolyn

Evidence from individual

Mynegaf fy mhryderon am y tro pedol ar yr ymrwymiad blaenorol i alw'r Senedd yn 'Senedd' ym mhob iaith.

Mae llawer o'm cyfoedion Saesneg ar wahanol byrddau yn cyfeirio at y sefydliad fel 'Senedd' eisoes. Prin fod y term "Welsh Parliament" yn cael ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd, a byddai ei gyflwyno nawr fel rhyw enw 'lled-swyddogol' yn gam yn ôl ac yn creu dryswch. Daw pawb i ddeall Senedd yn fuan iawn os mai dyma fydd yr unig enw.

Os yw'r Gymraeg yn perthyn i bawb, fel y dywedir yn aml, dyma gyfle gwych i'n corff democrataidd cenedlaethol ddangos hynny, drwy roi'r gair yma yn rhodd i bawb ei rannu.

Croesawyd y cyhoeddiad i ddefnyddio 'Senedd' yn y ddwy iaith gan grwpiau, sefydliadau, Aelodau'r Senedd ac unigolion. Mae'n cynnig un enw ac un logo syml y gall pawb ei ddefnyddio. Mae nifer o bobl ddi-Gymraeg wedi dweud eu bod yn teimlo bod y dadleuon dros gyflwyno ail enw yn Saesneg yn nawddoglyd tuag atynt. Beth bynnag ein gallu yn yr iaith, mae ‘Senedd’ yn enw y gall pawb fod yn falch ohono.

Rwy’n mawr obeithio eich bod yn cytuno, ac y byddwch yn cefnogi diwygio’r Bil er mwyn sicrhau bod enw a logo uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol.